Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Directions Website Contact the business

Iechyd a Gofal Digidol Cymru Dod â datblygu Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh), a rheoli gwybodaeth, at ei gilydd yn GIG

Mae Swynion Seibr yn ôl gyda phum peth rydyn ni’n eu hosgoi fis Hydref yma. 👻O ddolenni amheus a chyfrineiriau gwan i ra...
09/10/2026

Mae Swynion Seibr yn ôl gyda phum peth rydyn ni’n eu hosgoi fis Hydref yma. 👻
O ddolenni amheus a chyfrineiriau gwan i rannu gormod ar-lein, mae’n well gadael rhai arferion seibr ar ôl.
Dyma’r pum peth rydyn ni’n ffarwelio â nhw yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Seiberddiogelwch. 🎃💻

Dyma Joe, ein Champion Cymraeg!Mae Joe, Rheolwr Perfformiad Sefydliadol yn IGDC, yn magu hyder yn y Gymraeg gam wrth gam...
05/10/2026

Dyma Joe, ein Champion Cymraeg!

Mae Joe, Rheolwr Perfformiad Sefydliadol yn IGDC, yn magu hyder yn y Gymraeg gam wrth gam.

Mae bellach wedi cyrraedd carreg filltir o 1,500 diwrnod ar Duolingo, yn cwrdd yn rheolaidd â chydweithiwr sy'n siarad Cymraeg i ymarfer, ac yn dechrau cwrs Dysgu Cymraeg.

Mae'r Gymraeg hefyd wedi dod yn rhan o fywyd teuluol bob dydd, ac un o'r pethau y mae Joe fwyaf balch ohono yw gallu darllen llyfrau i'w ferch yn Gymraeg.

Ei gyngor i unrhyw un sydd eisiau defnyddio mwy o Gymraeg?

Dechreuwch yn fach. Cadwch hi'n syml. Gwnewch hi'n rhan o'ch arferion bob dydd.

Diolch, Joe!

📢 Mae'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) bellach yn fyw ym mhob fferyllfa gymunedol yng Nghymru.Mae hyn yn gol...
29/09/2026

📢 Mae'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) bellach yn fyw ym mhob fferyllfa gymunedol yng Nghymru.

Mae hyn yn golygu bod pob fferyllfa gymunedol yng Nghymru bellach yn gallu derbyn presgripsiynau'n electronig gan bractisau meddygon teulu.

Mae EPS yn helpu i wneud y broses ragnodi yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon drwy leihau'r ddibyniaeth ar bresgripsiynau papur a galluogi presgripsiynau i gael eu holrhain yn electronig. Ers mis Tachwedd 2023, mae dros 36 miliwn o eitemau presgripsiwn wedi cael eu hawlio'n llwyddiannus drwy'r gwasanaeth, gan ddod â budd i fwy na miliwn o gleifion ledled Cymru.

Mae'r defnydd o EPS yn parhau i gynyddu wrth i ni weithio gyda phartneriaid i gefnogi'r practisau meddygon teulu sy'n weddill i fynd yn fyw gyda'r gwasanaeth.

Mae'r cyflawniad hwn yn cynrychioli blynyddoedd o gydweithio rhwng timau fferylliaeth, practisau meddygon teulu, cyflenwyr systemau, y GIG, Llywodraeth Cymru a sefydliadau partner, i drawsnewid gwasanaethau meddyginiaethau er budd cleifion.

https://igdc.gig.cymru/newyddion/newyddion-diweddaraf/gwasanaeth-presgripsiynau-electronig-bellach-ar-gael-ym-mhob-fferyllfa-gymunedol-yng-nghymru/

Mae ein Cyfarfod Cyhoeddus y Bwrdd yn cael ei gynnal heddiw am 10am.Bydd aelodau’r Bwrdd yn clywed sut mae gwasanaethau ...
24/09/2026

Mae ein Cyfarfod Cyhoeddus y Bwrdd yn cael ei gynnal heddiw am 10am.

Bydd aelodau’r Bwrdd yn clywed sut mae gwasanaethau digidol yn cefnogi pobl ledled Cymru, yn derbyn diweddariadau ar ein blaenoriaethau strategol, ac yn ystyried Strategaethau Cyfathrebu ac Ymgysylltu wedi’u hadnewyddu a ddatblygwyd ar sail adborth gan staff a rhanddeiliaid.

Gallwch hefyd ddysgu mwy am sut mae Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol yn helpu i droi data yn wybodaeth ystyrlon ar gyfer cleifion, practisau a chymunedau.

Gwyliwch yn fyw o 10am drwy Zoom: https://us06web.zoom.us/j/99740679291

Pob lwc enfawr i’n cydweithwyr a’n ffrindiau yn IGDC sy’n rhedeg Hanner Marathon Caerdydd mewn tair wythnos!Mae Morgan e...
13/09/2026

Pob lwc enfawr i’n cydweithwyr a’n ffrindiau yn IGDC sy’n rhedeg Hanner Marathon Caerdydd mewn tair wythnos!
Mae Morgan eisoes wedi cynhesu drwy gwblhau Wales Ultra 50. Nawr mae’n rhedeg yr hanner marathon i godi a***n i Tenovus Cancer Care.
Rhedodd Nina hanner marathon ddiwethaf dros ddegawd yn ôl. Mae hi’n gyffrous, ond hefyd ychydig yn nerfus! Mae hi’n rhedeg dros Elusen Ysbyty Plant Arch Noa.
Byddwn ni’n eu cefnogi ac yn eu hannog ar hyd y ffordd!

11/09/2026

Wyddoch chi fod yna fframwaith sy'n helpu dros 1,000 o sefydliadau ledled Cymru i rannu gwybodaeth yn ddiogel? 👀
Ers dros 20 mlynedd, mae Cytundeb Cymru ar Rannu Gwybodaeth Bersonol (WASPI) wedi helpu sefydliadau ledled Cymru i rannu gwybodaeth yn ddiogel, yn gyfreithlon ac yn hyderus. O iechyd a thai i addysg a gwasanaethau brys, mae WASPI yn cefnogi rhannu gwell er mwyn sicrhau canlyniadau gwell.
Gwrandewch ar Marcus yn egluro sut mae'n gweithio mewn llai na munud.

🚁 Yr Wythnos Ambiwlans Awyr hon, rydyn ni'n dathlu gwaith anhygoel Ambiwlans Awyr Cymru | Wales Air Ambulance Charity, s...
10/09/2026

🚁 Yr Wythnos Ambiwlans Awyr hon, rydyn ni'n dathlu gwaith anhygoel Ambiwlans Awyr Cymru | Wales Air Ambulance Charity, sy'n dod â thriniaeth achub bywyd yn uniongyrchol at gleifion ar yr adeg a'r lleoliad mae ei hangen fwyaf.

Yn ystod argyfwng, gall cael mynediad at y wybodaeth gywir wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Dyna pam mae Porth Clinigol Cymru yn helpu i gefnogi meddygon Ambiwlans Awyr Cymru, drwy roi mynediad iddynt at wybodaeth feddygol claf a helpu clinigwyr i wneud penderfyniadau cyflymach sydd wedi'u seilio ar wybodaeth well.

Gyda'i gilydd, mae arbenigedd rheng flaen a thechnoleg ddigidol yn helpu i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal cywir, ar yr adeg gywir, ble bynnag y maent yng Nghymru.

Diolch yn fawr i'r criwiau a'r clinigwyr, yn ogystal â gwirfoddolwyr a chefnogwyr yr elusen, sy'n gwneud gwaith hanfodol Ambiwlans Awyr Cymru yn bosibl.

08/08/2026

Ydych chi erioed wedi meddwl beth sydd ei angen i helpu i gyflwyno rhai o raglenni newid digidol mwyaf IGDC?

Yn ein cyfres ddiweddaraf Cwrdd â Ni am Dri, rydym yn cael sgwrs gyda Heather Porch, Prif Reolwr Prosiect ar gyfer y Rhaglen Pontio i’r Cwmwl. Mae Heather yn rhannu sut mae diwrnod arferol yn edrych iddi, ei thaith o Raglen Reoli Raddedig GIG Cymru i IGDC, a pham mae'r bobl a'r diwylliant yn ei hysbrydoli bob dydd.

O weithio gyda rhanddeiliaid ledled y sefydliad i helpu i ysgogi newid technegol ar raddfa fawr, mae stori Heather yn cynnig cipolwg gwych ar un o'r nifer o rolau sy'n helpu i lunio iechyd a gofal digidol yng Nghymru.

Gwyliwch nawr a dewch i adnabod y bobl y tu ôl i'r gwaith.

Ein blwyddyn mewn ffigyrau.Mae gwasanaethau digidol yn dod yn rhan greiddiol o ran sut mae pobl yn cyrchu, profi a darpa...
07/08/2026

Ein blwyddyn mewn ffigyrau.

Mae gwasanaethau digidol yn dod yn rhan greiddiol o ran sut mae pobl yn cyrchu, profi a darparu gofal ledled Cymru, ac mae'r ffigurau hyn yn tynnu sylw at yr effaith rydym yn ei chael.

Darllenwch ein Hadroddiad Blynyddol llawn ar gyfer 2025/26 ar wefan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (dolen yn ein bio).

Diolch enfawr i bawb a ymunodd â ni yn yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw ar gyfer ein trafodaeth banel ar sut mae techno...
06/08/2026

Diolch enfawr i bawb a ymunodd â ni yn yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw ar gyfer ein trafodaeth banel ar sut mae technoleg ddigidol yn newid y GIG yng Nghymru.

Diolch arbennig i Ifan Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth Ddigidol yn IGDC, am gadeirio; i Elin Wyn, sy'n cadeirio'r bwrdd 'Mwy Na Geiriau'; i Mark Jones, sy'n arbenigo mewn Deallusrwydd Artiffisial yn Llywodraeth Cymru; ac i Ma***n Wyn Jones, sydd ar Fwrdd iGDC; am rannu eu harbenigedd a'u safbwyntiau ar y cyfleoedd a'r heriau sy'n gysylltiedig â thrawsnewid digidol ym maes gofal iechyd.

O botensial Deallusrwydd Artiffisial a'r Cofnod Claf Unigol i ragnodi electronig, grymuso cleifion a phwysigrwydd meithrin ymddiriedaeth y cyhoedd, roedd yn sgwrs a oedd yn ysgogi meddwl am ddyfodol iechyd a gofal yng Nghymru. Pwysleisiwyd hefyd pa mor bwysig yw sicrhau bod gwasanaethau digidol yn parhau i fod yn gynhwysol, gyda'r Gymraeg wrth eu craidd.

Diolch i bawb yn y gynulleidfa am eich cwestiynau a'ch cyfraniadau meddylgar – gwnaethant gyfrannu at drafodaeth wych.

Address

21 Heol Ddwyreiniol Y Bont-Faen
Cardiff
CF119AD

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Iechyd a Gofal Digidol Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Business

Send a message to Iechyd a Gofal Digidol Cymru:

Shortcuts

Share