Gwobrau GIG Cymru

Directions Website Contact the business

Gwobrau GIG Cymru Dathlu rhagoriaeth wrth ysgogi gwelliannau a thrawsnewid gwasanaethau. Gynhelir gan Berfformiad a Gwella GIG Cymru.

📣 Wythnos olaf i bleidleisio!Bydd y cyfnod pleidleisio ar gyfer Gwobrau GIG Cymru 2026 yn cau'n fuan.Manteisiwch ar y cy...
14/09/2026

📣 Wythnos olaf i bleidleisio!

Bydd y cyfnod pleidleisio ar gyfer Gwobrau GIG Cymru 2026 yn cau'n fuan.

Manteisiwch ar y cyfle i weld y prosiectau sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a helpu i benderfynu pwy fydd yn ennill eleni.

âś…Darganfyddwch fentrau ysbrydoledig ledled Cymru
âś…Rhowch gydnabyddiaeth i gyflawniadau rhagorol
âś…Helpwch i ddewis yr enillwyr

đź“… Mae'r cyfnod pleidleisio ar agor tan 5:00pm ddydd Iau 17 Medi.

đź”— Pleidleisiwch nawr: https://nhswales.awardsplatform.com/en_GB/auth/login/zKDYPDBR

Mae amser o hyd i bleidleisio dros enillwyr Gwobrau GIG Cymru 2026!Dim amser gennych i edrych ar bob categori?  Gallwch ...
10/09/2026

Mae amser o hyd i bleidleisio dros enillwyr Gwobrau GIG Cymru 2026!

Dim amser gennych i edrych ar bob categori? Gallwch bleidleisio mewn cynifer neu gyn lleied o gategorĂŻau ag y dymunwch.

Edrychwch ar y prosiectau sydd o’r diddordeb mwyaf i chi a chael dweud eich dweud ar y mentrau rydych chi'n credu sydd wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf.

đź”— Pleidleisiwch heddiw:
https://nhswales.awardsplatform.com/en_GB/auth/login/zKDYPDBR

📣 Yn galw ar holl gydweithwyr GIG Cymru!Dyma eich cyfle i helpu i ddewis enillwyr Gwobrau GIG Cymru 2026.Dysgwch am y pr...
03/09/2026

📣 Yn galw ar holl gydweithwyr GIG Cymru!

Dyma eich cyfle i helpu i ddewis enillwyr Gwobrau GIG Cymru 2026.

Dysgwch am y prosiectau sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, darganfyddwch waith gwella ysbrydoledig sy'n digwydd ledled Cymru, a phleidleisiwch dros y mentrau rydych chi'n credu sydd wedi cael yr effaith fwyaf.

đź”— Pleidleisiwch heddiw: https://nhswales.awardsplatform.com/en_GB/auth/login/zKDYPDBR

02/09/2026

Chwilio am syniadau ymarferol i wella gwasanaethau, canlyniadau neu brofiad cleifion?

Ymunwch â'n cyfres o weminarau Gwella Ansawdd ar Waith yn ystod Wythnos Gwella Ansawdd Genedlaethol 2026!

Gallwch weld prosiectau gwella GIG Cymru sydd wedi ennill gwobrau a chlywed sut mae timau wedi gwella canlyniadau i gleifion, staff a gwasanaethau.

Bydd y sesiynau byr hyn yn darparu enghreifftiau ymarferol o sut mae methodolegau gwella ansawdd wedi cael eu defnyddio i ddatrys heriau, gwella canlyniadau a thrawsnewid iechyd a gofal ledled Cymru.

đź“… Yn ystod 14-18 Medi

⏱ Sesiynau 30 munud

📝 Cofrestrwch i fynychu yma: https://forms.cloud.microsoft/pages/responsepage.aspx?id=uChWuyjjgkCoVkM8ntyPrkprBrV99tRDjzmgZ8DmohJUOUM4NjM2S0oyQ0VTRDZEWEtVRUZMQlo2OS4u&lang=cy

🎉 Dywedwch eich dweud wrth ddewis enillwyr Gwobrau GIG Cymru 2026!Mae'r cyfnod pleidleisio bellach ar agor ac mae angen ...
12/08/2026

🎉 Dywedwch eich dweud wrth ddewis enillwyr Gwobrau GIG Cymru 2026!

Mae'r cyfnod pleidleisio bellach ar agor ac mae angen eich help arnom i gydnabod y gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud ar draws GIG Cymru.

Cafwyd y nifer uchaf erioed o gynigion ac mae 39 o brosiectau wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Mae'r timau hyn yn cyflawni gwelliannau ystyrlon sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau, staff a chleifion ledled Cymru.

🗳️ Cymerwch olwg ar bosteri’r prosiectau sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a phleidleisiwch dros y prosiectau sydd wedi cael yr effaith fwyaf yn eich barn chi.

Mae’r cyfle ar agor i bob cydweithiwr ar draws GIG Cymru, felly peidiwch â cholli'ch cyfle i helpu i ddewis yr enillwyr.

đź“… Mae'r cyfnod pleidleisio'n cau am 5:00pm ddydd Iau 17 Medi.

👉 Bwrwch eich pleidlais yma: https://nhswales.awardsplatform.com/en_GB/auth/login/zKDYPDBR

📣 Cyfle Olaf!Mae Gwobrau GIG Cymru yn dathlu timau sy'n cyflawni gwelliannau ystyrlon mewn ansawdd, diogelwch a pherffor...
18/06/2026

📣 Cyfle Olaf!

Mae Gwobrau GIG Cymru yn dathlu timau sy'n cyflawni gwelliannau ystyrlon mewn ansawdd, diogelwch a pherfformiad er mwyn trawsnewid gwasanaethau, profiadau a chanlyniadau i bobl ledled Cymru.

Cofiwch! Mae gennym ni wobr newydd sbon, hefyd, a fydd yn cydnabod timau sy'n darparu gofal o ansawdd uchel ac yn bodloni safonau Dyletswydd Ansawdd, a hynny’n gyson.

✨ Arddangoswch eich gwaith caled a chyflwynwch eich cais erbyn 12:00pm, ddydd Gwener 19 Mehefin.

👉 https://gwobraugig.cymru

⏰Ychydig ddyddiau olaf i gystadlu!   Dyma’ch cyfle i rannu eich llwyddiant a lledaenu eich gwelliannau a'ch perfformiad ...
17/06/2026

⏰Ychydig ddyddiau olaf i gystadlu!

Dyma’ch cyfle i rannu eich llwyddiant a lledaenu eich gwelliannau a'ch perfformiad o ansawdd uchel gyda chydweithwyr o bob rhan o GIG Cymru.

Arddangoswch eich gwaith caled a chyflwynwch eich cais erbyn 12:00pm, ddydd Gwener 19 Mehefin.

👉 https://gwobraugig.cymru

🚨 Dyddiad cau wedi'i ymestyn! 🚨Os nad ydych wedi cyflwyno eich cais ar gyfer Gwobrau GIG Cymru eto, dyma'ch cyfle olaf. ...
15/06/2026

🚨 Dyddiad cau wedi'i ymestyn! 🚨

Os nad ydych wedi cyflwyno eich cais ar gyfer Gwobrau GIG Cymru eto, dyma'ch cyfle olaf.

Mae gennych tan 12:00pm, ddydd Gwener 19 Mehefin bellach i gyflwyno eich ceisiadau.

⏰ Peidiwch â cholli allan! Ewch i https://gwobraugig.cymru i gael y manylion llawn.

09/06/2026

âś…Effaith go iawn ar ganlyniadau cleifion
âś…Newid cynaliadwy y gellir ei ehangu

Y tu ôl i bob prosiect sy’n rhan o Wobrau GIG Cymru mae taith o ymroddiad, cydweithio ac angerdd dros ddarparu gofal mwy diogel i gleifion.

O ail-lunio llwybrau i ledaenu arloesedd ledled Cymru a thu hwnt, mae'r timau ysbrydoledig hyn sydd wedi ennill gwobrau yn dangos sut olwg sydd ar lwyddiant.

Teimlo wedi’ch ysbrydoli? Gallwch dynnu sylw at eich gwaith eich hun drwy gystadlu yng Ngwobrau GIG Cymru 2026.

Darganfyddwch sut i gystadlu yma: https://gwobraugig.cymru

📺 Gwylio’r fideo llawn: https://youtu.be/8mz86H4yxIg

🎉 Newyddion mawr! 🎉Mae Gwobrau GIG Cymru yn dychwelyd ar gyfer 2026, ac eleni mae gennym ni rai newidiadau cyffrous!Maen...
27/05/2026

🎉 Newyddion mawr! 🎉

Mae Gwobrau GIG Cymru yn dychwelyd ar gyfer 2026, ac eleni mae gennym ni rai newidiadau cyffrous!

Maen nhw’n fwy cydweithredol nag erioed: am y tro cyntaf, gall cydweithwyr ar draws GIG Cymru helpu i ddewis ein henillwyr.

Mae gennym ni wobr newydd sbon, hefyd, a fydd yn cydnabod timau sy'n darparu gofal o ansawdd uchel ac yn bodloni safonau Dyletswydd Ansawdd, a hynny’n gyson.

Peidiwch â cholli'ch cyfle i godi proffil eich gwaith caled. Gwnewch gais erbyn dydd Llun, 15 Mehefin.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: gwobraugig.cymru

Address

Cardiff
CF104BZ

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Gwobrau GIG Cymru posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Business

Send a message to Gwobrau GIG Cymru:

Shortcuts

Share