30/09/2026
**We’re looking for new Trustees!** Sgroliwch i lawr am Gymraeg
Fast Track Cymru is growing and we’re looking for passionate, committed people to join our Board of Trustees and help shape the future of our work across Wales.
Fast Track Cymru is a Wales-wide community-led charity with a focus on HIV, viral hepatitis, TB and related conditions, working to improve health, wellbeing and outcomes while bringing together communities, professionals, policymakers and organisations to work towards elimination and reduce stigma and inequality. We work in communities, with communities, for communities.
You don’t need to have been a Trustee before. We’re looking for people who can bring different skills, experiences, perspectives and connections to our Board.
We’d particularly love to hear from people with:
- Lived experience relevant to our work or the communities we support
- Welsh language skills or experience of working bilingually in Wales
- Experience engaging with politicians, elected representatives or government
- PR, communications, media or campaigning experience
- Experience working with young people, education or youth organisations
We’d also welcome people with experience in areas such as charity governance, law, healthcare and public health, finance, organisational development, HR, community engagement and more.
You don’t need to tick every box. We want to build a Board that reflects the diversity of Wales and brings together a complementary mix of skills, knowledge and lived experience.
This is a voluntary role, with most meetings held online with one Board meeting each month, alongside approximately two Board away days each year.
If you’re passionate about health equality, reducing stigma and improving outcomes for communities across Wales, we’d love to hear from you.
To express your interest or find out more, email [email protected]
**Rydym yn chwilio am Ymddiriedolwyr newydd!**
Mae Fast Track Cymru yn tyfu ac rydym yn chwilio am bobl ymroddedig ac angerddol i ymuno â’n Bwrdd Ymddiriedolwyr a helpu i lunio dyfodol ein gwaith ledled Cymru.
Mae Fast Track Cymru yn elusen dan arweiniad cymunedol sy’n gweithio ledled Cymru, gyda ffocws ar HIV, hepatitis firaol, TB a chyflyrau cysylltiedig. Rydym yn gweithio i wella iechyd, lles a chanlyniadau, gan ddod â chymunedau, gweithwyr proffesiynol, llunwyr polisi a sefydliadau ynghyd i weithio tuag at ddileu’r clefydau hyn a lleihau stigma ac anghydraddoldeb.
Rydym yn gweithio mewn cymunedau, gyda chymunedau, dros gymunedau.
Nid oes angen i chi fod wedi bod yn Ymddiriedolwr o’r blaen. Rydym yn chwilio am bobl sy’n gallu dod â gwahanol sgiliau, profiadau, safbwyntiau a chysylltiadau i’n Bwrdd.
Byddem yn arbennig o falch o glywed gan bobl sydd â:
- Profiad bywyd sy’n berthnasol i’n gwaith neu i’r cymunedau rydym yn eu cefnogi
- Sgiliau yn y Gymraeg neu brofiad o weithio’n ddwyieithog yng Nghymru
- Profiad o ymgysylltu â gwleidyddion, cynrychiolwyr etholedig neu’r llywodraeth
- Profiad ym maes cysylltiadau cyhoeddus, cyfathrebu, y cyfryngau neu ymgyrchu
- Profiad o weithio gyda phobl ifanc, ym maes addysg neu gyda sefydliadau ieuenctid
Byddem hefyd yn croesawu pobl sydd â phrofiad mewn meysydd fel llywodraethu elusennol, y gyfraith, gofal iechyd ac iechyd y cyhoedd, cyllid, datblygu sefydliadol, adnoddau dynol, ymgysylltu â chymunedau a mwy.
Nid oes angen i chi fodloni pob un o’r meini prawf. Rydym am adeiladu Bwrdd sy’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru ac sy’n dod â chymysgedd cyflenwol o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad bywyd ynghyd.
Mae hon yn rôl wirfoddol, gyda’r rhan fwyaf o gyfarfodydd yn cael eu cynnal ar-lein, gan gynnwys un cyfarfod Bwrdd bob mis, ynghyd â thua dau ddiwrnod cwrdd i ffwrdd y Bwrdd bob blwyddyn.
Os ydych yn angerddol am gydraddoldeb iechyd, lleihau stigma a gwella canlyniadau i gymunedau ledled Cymru, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
I fynegi eich diddordeb neu i gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at [email protected]
Charity Commission Fast Track Gorllewin Cymru / Fast Track West WalesFast Track PowysFast Track CTMFast Track Cardiff & ValeFast Track North WalesFast Track GwentFast Track Swansea Bay/Bae Abertawe
The National Lottery Community Fund/ Cronfa Gymunedol y Loteri GenedlaetholBHIVA - British HIV AssociationBritish Association for Sexual Health & HIV (BASHH)Hep C U LaterThe Hepatitis C TrustTB Alert Welsh Government WCVA CGGC Hepatitis B Companion