Addysg a Gwella Iechyd Cymru - AAGIC

Call Directions Website Contact the business

Addysg a Gwella Iechyd Cymru - AAGIC Cynllunio, datblygu, siapio, addysgu a hyfforddi y gweithlu iechyd ar gyfer heddiw ac yfory. Sylwch fod y swyddogaeth cyfieithu Facebook yn anghywir.

Am ddiweddariadau yn Saesneg, dilynwch ein tudalen Saesneg:
facebook.com/HEIW.NHS

29/10/2026

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer Rhaglen Graddedigion Rheolaeth Gyffredinol GIG Cymru tan Tachwedd 2026.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi cynnal adolygiad sylweddol o'r rhaglen i sicrhau bod ein harweinwyr y dyfodol wedi'u harfogi â'r sgiliau, yr ymddygiadau a'r profiadau sydd eu hangen i ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel ledled Cymru. Mae'r rhaglen yn cynnig cyfleoedd datblygu estynedig a phroses recriwtio wedi'i hadnewyddu, wedi'i chynllunio i nodi a meithrin arweinwyr talentog y dyfodol.

Os ydych yn angerddol am wneud gwahaniaeth i GIG Cymru ac am ddatblygu eich potensial arwain a rheoli, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Dysgwch fwy: https://orlo.uk/nHtD6

Dysgu o brofiad byw i wella llesiantMae AaGIC, Mind Conwy, Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wed...
29/10/2026

Dysgu o brofiad byw i wella llesiant

Mae AaGIC, Mind Conwy, Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cydweithio i gyflwyno peilot lleoliad newydd sy'n helpu myfyrwyr ffisiotherapi i archwilio'r cysylltiad rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl.

Gan weithio ochr yn ochr â phobl sydd â phrofiad byw, cyd-gynhyrchodd y myfyrwyr becyn cymorth ymarferol i gefnogi gweithgarwch corfforol ystyrlon a chyraeddadwy.

Mae'r peilot yn tynnu sylw at werth gweithio mewn partneriaeth, cyd-gynhyrchu a dysgu y tu hwnt i leoliadau clinigol traddodiadol er mwyn paratoi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol.

Oherwydd bod gofal gwell yn dechrau gyda gweithlu gofal iechyd medrus, hyblyg ac yn barod ar gyfer y dyfodol.
https://orlo.uk/2sWJs

Pecynnau dysgu newydd i gefnogi iechyd a gofal mewn cymunedau ledled CymruGan weithio gyda chydweithwyr iechyd a gofal l...
28/10/2026

Pecynnau dysgu newydd i gefnogi iechyd a gofal mewn cymunedau ledled Cymru

Gan weithio gyda chydweithwyr iechyd a gofal ledled Cymru, mae AaGIC wedi datblygu e-ddysgu hyblyg newydd i helpu pobl sy'n gweithio mewn cymunedau i feithrin eu gwybodaeth, eu sgiliau a'u hyder.

Mae'r dysgu'n cynnwys sgiliau asesu a modiwlau ymarferol sy'n ymdrin â chymorth meddyginiaeth, anaf acíwt i'r arennau a rhwymedd mewn pobl ag anabledd deallusol.

Drwy ddatblygu sgiliau’n lleol, nod y dysgu yw cefnogi gweithlu hyderus a chynaliadwy, ehangu mynediad at gyfleoedd datblygu a helpu i ddarparu gofal mwy diogel ac o ansawdd uchel yn agosach at adref.

Dysgwch fwy a chyrchwch y dysgu: https://orlo.uk/5liY2

Sut mae gweithlu GIG Cymru yn newid?Mae cynllunio ar gyfer y dyfodol yn golygu deall y bobl sy’n darparu gofal heddiw, y...
22/10/2026

Sut mae gweithlu GIG Cymru yn newid?

Mae cynllunio ar gyfer y dyfodol yn golygu deall y bobl sy’n darparu gofal heddiw, y cymorth sydd ei angen arnynt drwy gydol eu gyrfaoedd, a phwy fydd yn ymuno â’r gweithlu yn y blynyddoedd i ddod.

Mae ein Hadroddiad Tueddiadau’r Gweithlu newydd yn archwilio’r newidiadau hyn a’u goblygiadau i GIG Cymru.

Dim ond rhan o’r stori y mae niferoedd staff yn ei hadrodd. Mae llesiant, gweithio hyblyg a phatrymau ymddeol hefyd yn effeithio ar y capasiti sydd ar gael i ddarparu gofal.

Darllenwch y prif ganfyddiadau a lawrlwythwch yr adroddiad: https://orlo.uk/XK9V3

Mae’r adroddiad yn cwmpasu sefyllfa’r gweithlu hyd at fis Mawrth 2026.

Mae’r cynllunio gweithlu sydd ei angen ar GIG Cymru yn dechrau drwy ddeall sut mae’n newid a beth mae’r newidiadau hynny’n ei olygu i’r bobl sy’n darparu ac yn derbyn gofal.

Helpwch i Lunio Dyfodol Addysg a Hyfforddiant yn GIG CymruRydym am glywed eich barn am ein Strategaeth Addysg ddrafft, s...
21/10/2026

Helpwch i Lunio Dyfodol Addysg a Hyfforddiant yn GIG Cymru

Rydym am glywed eich barn am ein Strategaeth Addysg ddrafft, sy'n nodi ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol addysg a hyfforddiant ar draws GIG Cymru.

Wedi'i datblygu drwy flwyddyn o gasglu tystiolaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar bum prif thema:
• Sgiliau ar gyfer y dyfodol
• Llwybrau deniadol i yrfaoedd ym maes gofal iechyd
• Datblygu'r gweithlu amlbroffesiynol
• Amgylcheddau dysgu o ansawdd uchel
• Cynllunio a chyllido cynaliadwy

P'un a ydych yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol, yn ddysgwr, yn addysgwr, yn bartner neu'n aelod o'r cyhoedd, mae eich barn yn bwysig.

Rhowch eich barn a helpwch i lunio'r strategaeth. Mae'r ymgynghoriad yn cau ar 4 Rhagfyr 2026.

Darllenwch y strategaeth ddrafft a chwblhewch yr holiadur ymgynghori: https://orlo.uk/FiebT

Mae cynllunio ar gyfer y dyfodol yn dechrau heddiw.Gweler ein Hadroddiad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2...
21/10/2026

Mae cynllunio ar gyfer y dyfodol yn dechrau heddiw.
Gweler ein Hadroddiad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2025-26 a darganfyddwch sut rydym yn cefnogi gweithlu medrus a chynaliadwy ar gyfer GIG Cymru drwy addysg, cynllunio'r gweithlu a datblygu arweinyddiaeth.
https://orlo.uk/fcPRn

Mae codi pryderon yn allweddol i sicrhau amgylchedd gwaith diogel, lles cydweithwyr a gofal cleifion o safon. Ydych chi'...
16/10/2026

Mae codi pryderon yn allweddol i sicrhau amgylchedd gwaith diogel, lles cydweithwyr a gofal cleifion o safon.

Ydych chi'n fyfyriwr gofal myfyriwr proffesiwn gofal iechyd, dan hyfforddiant neu'n ddysgwr yn y gwaith* ym maes gofal iechyd sydd â phryder, ond yn teimlo'n ansicr sut i'w godi?
Mae ein Pecyn Cymorth Myfyriol ar gyfer Codi Pryderon yma i'ch cefnogi:

https://orlo.uk/F8AQ1

*Mae’r themâu yn y pecyn cymorth yn berthnasol i raglenni gofal iechyd a dysgu seiliedig ar waith gan gynnwys myfyrwyr a hyfforddeion ar draws rhaglenni nyrsio, bydwreigiaeth, perthynol i iechyd , gwyddor gofal iechyd, meddygol, deintyddol, fferylliaeth ac optometreg.

Dechrau gyrfa ddeintyddol yng Nghymru neu gefnogi cydweithiwr sydd wedi'i hyfforddi'n rhyngwladol?  Dylai dod o hyd i wy...
16/10/2026

Dechrau gyrfa ddeintyddol yng Nghymru neu gefnogi cydweithiwr sydd wedi'i hyfforddi'n rhyngwladol?

Dylai dod o hyd i wybodaeth a chymorth defnyddiol fod yn syml. Mae ein Hwb Graddedigion Deintyddol Rhyngwladol newydd yn dod ag arweiniad ac adnoddau at ei gilydd mewn un lle.

Rydym hefyd wedi lansio modiwl dysgu ar alw ar gyfer mentoriaid ar y Rhaglen Cynhwysiant trwy Fentora, gydag adnoddau ymarferol i gefnogi cydweithwyr wrth iddynt ymgartrefu i ymarfer yng Nghymru.


Darganfyddwch fwy, a rhannwch gyda rhywun a allai elwa: https://orlo.uk/4ysdR

Rhaglen genedlaethol newydd yn cefnogi fferyllwyr-ragnodwyr gyrfa gynnar yng NghymruMae dull cenedlaethol newydd o ddatb...
15/10/2026

Rhaglen genedlaethol newydd yn cefnogi fferyllwyr-ragnodwyr gyrfa gynnar yng Nghymru

Mae dull cenedlaethol newydd o ddatblygiad proffesiynol bellach yn cefnogi fferyllwyr gyrfa gynnar ledled Cymru i fagu hyder, cryfhau'r broses o wneud penderfyniadau clinigol a datblygu eu hymarfer fel rhagnodwyr annibynnol.

Wedi'i lansio ym mis Medi 2026, mae Model Cymorth Fferyllydd Sylfaen Ôl-gofrestru AaGIC (PRFP) yn darparu:

• Amser dysgu gwarchodedig
• Goruchwyliaeth arbenigol
• Mynediad at adnoddau addysgol
• Llwybr strwythuredig ar gyfer datblygiad proffesiynol

Drwy helpu fferyllwyr i gymhwyso eu sgiliau rhagnodi yn ddiogel ac yn hyderus mewn ymarfer bob dydd, nod y rhaglen yw cefnogi gwell gofal i gleifion ledled Cymru.

Dywedodd Emma Llewellyn, Arweinydd Rhaglen Glinigol sylfaen Ôl-gofrestru yn AaGIC: "Mae'r Model Cymorth PRFP yn fuddsoddiad pwysig wrth ddatblygu gweithlu fferylliaeth hyderus, medrus a chynaliadwy i Gymru."

Darllenwch fwy yma https://orlo.uk/uBr8e

Cyhoeddwyd 15/10/2026 Mae fferyllwyr gyrfa gynnar ledled Cymru yn elwa o ddull cenedlaethol newydd o ddatblygiad proffesiynol, gan eu cefnogi i fagu hyder, cryfhau'r broses o wneud penderfyniadau clinigol a datblygu eu…

🔍 Sarcoma: magwch hyder gyda GatewayCPa mor hyderus ydych chi wrth adnabod arwyddion sarcoma mewn gofal sylfaenol?Fel gw...
14/10/2026

🔍 Sarcoma: magwch hyder gyda GatewayC

Pa mor hyderus ydych chi wrth adnabod arwyddion sarcoma mewn gofal sylfaenol?

Fel gweithiwr proffesiynol prysur ym maes gofal sylfaenol, gall fod yn heriol cadw'n gyfredol. Mae GatewayC yn ei gwneud hi'n haws drwy ddarparu hyfforddiant byr ac ymarferol sydd wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch diwrnod gwaith.
Mae ein cwrs ar sarcoma yn eich helpu i:

• Fagu ymwybyddiaeth o'r arwyddion a'r symptomau i edrych amdanynt
• Cryfhau eich hyder wrth adnabod arwyddion rhybudd posibl
• Cael mynediad at hyfforddiant ymarferol i gefnogi eich gwaith dyddiol

Cymerwch ychydig funudau i wella eich gwybodaeth a'ch hyder.

Archwiliwch gwrs byr, rhad ac am ddim GatewayC ar sarcoma heddiw: https://orlo.uk/SH3Jf

Address

Ty Dysgu, Cefn Coed, Nantgarw, Caerdydd
Cardiff
CF157QQ

Opening Hours

Monday 8:30am - 5pm
Tuesday 8:30am - 5pm
Wednesday 8:30am - 5pm
Thursday 8:30am - 4:30pm
Friday 8:30am - 4:30pm

Telephone

+443300585005

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Addysg a Gwella Iechyd Cymru - AAGIC posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Business

Send a message to Addysg a Gwella Iechyd Cymru - AAGIC:

Shortcuts

Share

Nearby health & beauty businesses